CHIPAC J80Cafodd pedwar ar ddeg o aelodau CHIPAC ddwy awr o hwylio cyffrous Nos Wener diwethaf,ar gwch tipyn yn fwy a chyflymach na'r cychod y maent yn arfer ei hwylio bob Nos Lun a Nos Wener yn ystod yr haf.

'Roed gwynt eithaf cryf o'r Gogledd yn golygu fod y mor yn weddol dawel a'r cwch yn ochri a hwylio yn gyflym.

Hwyliwyd heibio i Garreg yr Imbill draw at Carreg y Defaid a cafodd y plant i gyd gynnig ar lywio y gwch.

Mwynhaodd pawb y profiad, gan obeithio cael cynnig eto yr Haf nesaf, ac maent yn ddiolchgar i berchennog y cwch, Mark  ac Jo Thompson, am eu caredigrwydd ac i Tomos Tudor am lywio.

'Roedd Mari Davies,cyn aelod o CHIPAC sydd yn hwylwraig rhyngwladol llwyddiannus iawn,hefyd ar y gwch yn hyfforddi'r plant ac 'rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei chefnogaeth i'r Clwb.

Cafwyd noson i'w chofio,ac i siarad amdani am hir' rwy'n siwr.

CHIPAC J80b

pwllheli logo low res

CalonHwylioCymru