YY AWARDS2016 logoFel y gwyddoch bu haf 2015 yn haf prysur iawn i ni yma. Mae enwebiadau gwobrau blynyddol cylchgrawn Yacht and Yachting yn adelwyrchu prysurdeb y 7 pencampwriaeth genedlaethol a rhyngwladol a groesawom gan fod 5 o’r enwebiadau yn deillio o’r pencampwriaethau hyn.

Mae angen nawr i bobl bledleisio dros yr enwebiadau er mwyn dangos a phwysleisio pwysigrwydd Plas Heli a Chlwb Hwylio Pwllheli ar fap hwylio’r byd.

Gofynnwn felly’n daer am eich cefnogaeth. Mae’n hollol syml:

  • Dilynwch y linc yma (cyn Rhagfyr 12): http://www.yachtsandyachting.co.uk/awards2016/
  • Categori 2: Photo of the Year - pledleisiwch dros “Peter Newton captures the spirit of adventure at the Optimist Europeans in Pwllheli. “
  • Categori 6: Racing Performance – pledleisiwch dros “Fireballs Worlds: Tom Gillard & Richard Anderton”
  • Categori 9: Youth Sailor – pledleisiwch dros “Rhys Lewis” neu “Mimi El-Khazindar & Emma Loveridge” (ond mae Rhys Lewis yn Gymro felly gwell fyth i hwylio yng Nghymru)
  • Categori 13: Event of the Year – pledleisiwch dros “Optimist Europeans at the Welsh National Sailing Academy, Pwllheli”
  • Does dim rhaid i chi bledleisio mewn unrhyw gategori arall os nad ydych chi eisiau.
  • Llanwch eich manylion a chlicio “Vote Now”

Diolch yn fawr. Mae’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y Sioe Gychod yn Llundain ym mis Ionawr. Mi wnawn ni adael i chi wybod os y byddwn yn llwyddiannus.

 

 


pwllheli logo low res

CalonHwylioCymru